Hygyrchedd | Map o'r wefan | English
Positif Politics

Hyfforddi Positif Politics

Rows of grey men with one purple one standing apart, arms aloft
Mae newidiadau diweddar mewn gwleidyddiaeth Cymreig a'r broses wleidyddiol yng Nghymru wedi arwain at angen cynyddol am hyfforddiant o lefel uchel. Mae Positif Politics wedi ymateb i'r her hwn ac wedi datblygu ac addasu cyfres o fodiwlau hyfforddiant ag all delifero ar themau a materion allweddol. Yn dilyn yn refferendwm ym Mawrth 2011, mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn awr yn medru pasio deddfwriaeth cynradd ymhob maes datganoledig ac yn dilyn yr etholiad mae gennym Lywodraeth Lafur gyda Gweinidogion a blaenoriaethau polisi newydd. Beth fydd y newidiadau hyn yn ei olygu ar gyfer eich sefydliad? Sut y cewch eich heffeithio gan bolisi a deddfwriaeth newydd? Yn ddiwahan yn y sector gyhoeddus, breifat neu wirfoddol mae'n rhaid i'ch staff a'ch cleiantiaid i ddeall sut yr effeithir hwy gan y newidiadau allweddol. Nid oes angen bod yn gleiant parhaol i Positif Politics er mwyn mynychu unrhyw un o'n cyrsiau. Rydym yn delifero ein hyfforddiant mewn tri ffordd:

Cyrsiau pwrpasol: Gallwn ddod atoch chi neu chithau atom ninnau er mwyn derbyn cwrs wedi ei deilwra'n arbennig sy'n ymchwilio mewn i faterion o ddiddordeb i chi. Gall y cyrsiau amrywio o hanner diwrnod hyd at ddau ddiwrnod llawn o hyfforddiant. Mae sefydliadau amrywiol wedi defnyddio ein gwasanaeth hyfforddiant gan gynnwys cwmnioedd o'r radd flaenaf (blue chip), cyrff cyhoeddus ac elusennau. Dyma rhai o'r modiwlau a ddarperir gennym:

Rydym wedi cynllunio a delifro cyrsiau hyfforddiant i sefydliadau yn y sector gyhoeddus, preifat a'r trydydd sector gan gynnwys

Cyrsiau agored: Mae dros ugain o gyrsiau agored wedi eu cynnal gennym ni dros y dair blynedd diwethaf, yn cynnig cyfle i sefydliadau ac unigolion i ddysgu mwy am wleidyddiaeth Cymru fodern a llunio polisiau. Rydym wedi hyfforddi canoedd o unigolion trwy'r cyrsiau hyn.

Opsiynau ar gyfer hyfforddiant ychwanegol: Mae ein hyfforddwyr ar gael i ddelifero modiwlau ar gyfer cyflenwyr eraill o hyfforddiant neu fel rhan o fentrau codi sgiliau mewn cynadleddoedd neu ddyddiau agored. Mae modiwlau hyfforddiant wedi ei ddelifero gennym yng Nghaerdydd, Llundain a mewn mannau eraill.

Am fwy o wybodaeth am ein rhaglen hyfforddi neu i ychwanegi eich hun i'n bas data, cysylltwch a Susan Bowen ar susan@positifpolitics.co.uk

Hyfforddi