Beth rydym yn ei wneud

Mae Positif Politics yn fwy na dim ond asiantaeth faterion cyhoeddus draddodiadol.
Rydym yn agored i syniadau newydd ac awgrymiadau. Fel y dengys yr ystod
o wasanaethau rydym yn ei gynnig, gallwn ddarparu cefnogaeth materion cyhoeddus
llawn i'n cleientiaid. A golyga ein meddylfryd bod Positif Politics yn fath
gwahanol iawn o asiantaeth materion cyhoeddus.
Mae Positif Politics wedi datblygu ystod eang a chyfoes o wasanaethau sydd wedi eu llywio gan anghenion cleientiaid. Rydym yn cynnig ystod eang o atebion i'ch anghenion materion cyhoeddus yn hytrach nag "un ateb ar gyfer pawb." Mae'r gwasanaethau hyn yn ymestyn o ddisgyblaethau materion cyhoeddus traddodiadol megis gwasanaethau ymgynghori a monitro i weithgareddau fel trefnu digwyddiadau, ymchwil ac arolygu barn. Ac mae Positif Politics yn ymfalchïo mewn bod yn gystadleuol a hyblyg o ran y gwasanaethau rydym yn ei gynnig.
Mae gan Positif Politics brofiad helaeth o gydweithio gyda'r sector busnes,
gwirfoddol a chyhoeddus. Rydym wedi gweithio gyda chwmnïau mawr rhyngwladol
a sefydliadau cymunedol bychan ac mae gennym brofiad helaeth a hanes o gyflawni
prosiectau yn llwyddiannus, am y pris cywir ac ar amser.