Pobl - Rhodri ab Owen
Mae Rhodri ab Owen yn Ymgynghorydd gyda Positif Politics ac ymunodd â’r cwmni ym mis Ionawr 2010. Mae’n rhan allweddol o’r tim Monitro, gan ffocysu ar gyfiawnder cymdeithasol, datblygiad economaidd, trafnidiaeth ag addysg. O ganlyniad mae gan Rhodri dealltwriaeth a phrofiad cynhwysfawr o fywyd gwleidyddol Cymru, yn enwedig ar lefel y Cynulliad Cenedlaethol, a mae’n arbenigwr ar etholiadau a strwythurau datganoledig.
Cyn ymuno â Positif Politics, gweithiodd ar gynhyrchu’r ‘Wales Yearbook’ am ddwy flynedd. Graddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a dyfarnwyd ef Gwobr Goffa yr Athro J Mervin Williams am y marc uchaf mewn Gwleidyddiaeth Cymru. Yn dilyn hyn, cwblhaodd radd ôl-raddedig mewn Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru. Daw a chyfoeth o brofiad ac ymroddiad i’r cwmni, ac ef yw un o’u prif wynebau cyhoeddus.