Ymchwil a Dadansoddi Polisi

Pwrpas gwleidyddiaeth yw i ddatblygu polisi i wella bywydau pobl. Ymfalchïa
Positif Politics yn safon uchel yr ymchwil polisi a gwleidyddol yr ydym
yn ei ddarparu. Mae'r prosiectau hyn bob amser yn rai unigryw ac yn amrywio
o ran maint. Tueddwn i gyfrifo prisiau ein gwaith polisi ac ymchwil ar sail
ffioedd dyddiol fel y gall cleientiaid ddewis faint o'n hamser y maent am
i ni ei ganolbwyntio ar y gwaith yn ddibynnol ar faint o fanylder maent
ei angen a faint maent yn fodlon ei fuddsoddi.
Rdym wedi cwblhau gwaith ymchwil a dadansoddi polisi penodol ar gyfer sefydliadau amrywiol gan gynnwys Y Gymdeithas Clefyd Parkinson's, Cyngor ar Bopeth Cymru, Sefydliad Aren Cymru, Trafnidiaeth Cymunedol Cymru, amryw o gwmniau fferyllyddol, a'r Ffederasiwn Busnesau Bach.
Un o'n prif ardaloedd ymchwil penodol yw'r audit gwleidyddol ble rydym yn ystyried a chasglu safbwyntiau gwleidyddion a phrif gwneuthwyr bolisi ar fudiadau a safbwyntiau. Rydym wedi gwneud y math yma o ymchwil i gyrff gan gynnwys y Cynghrair Wrth Tobacco Cymreig, Dyfrfrydoedd Prydeinig, Tenovus a'r Cymdeithas Prydeinig Gweithwyr Cymdeithasol.
Un arbenigedd o fewn ein portffolio ymchwil yw cynorthwyo cleientiaid i ymateb i ymgynghoriadau Llywodraethau a Phwyllgorau yng Nghaerdydd a San Steffan. Gallwn eich cynorthwyo i wneud eich tystiolaeth mor berthnasol a thrawiadol a phosib gan ein bod yn dilyn adolygiadau polisi, a gallwn eich cynghori yngl?n a sut i wneud argraff a sicrhau bod eich negeseuon yn gyson a chryf. Ac fel gyda gweddill ein gwaith ymchwil, gallwn deilwra ein gwasanaethau i gwrdd a'r lefel o fanylder a faint o fuddsoddiad sydd ar gael.