Hygyrchedd | Map o'r wefan | English
Positif Politics

Enghraifft - Ymgyrch Pobl fel Ni

Cylch tyn o gymeriadau lliw yn codi eu breichiau
Roedd yr Ymgyrch Pobl fel Ni o Medi 2007 i Ionawr 2008 yn ymgais llwyddiannus i leisio pryderon sydd byth yn cael eu clywed ar ran holl gleifion arennol Cymru. Cleifion sy'n ei chael hi'n anodd i fyw eu bywydau, boed ar ddialysis, yn disgwyl am drawsblaniad, neu yn pryderu am eu gofal a gofal pobl sy'n annwyl iddynt. Cred Sefydliad Aren Cymru y dylai lleisiau o'r fath gael eu clywed a'u lleisio gyda pobl a all helpu.

Bu Positif Politics yn gweithio gyda Sefydliad Aren Cymru i wneud yn si?r bod y lleisiau hyn yn cael eu clywed yn glir. Fe wnaeth ein gwaith groesdorri nifer o sgiliau ac ymarferion i gefnogi'r ymgyrch Pobl Fel Ni mor llawn a phosib. Roedd hyn yn cynnwys:

Fe ddaeth degau o bobl i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 20fed Medi gan gynnwys cleifion, gofalwyr, gweithwyr gofal iechyd, a gwleidyddion i nodi lansio Ymgyrch Pobl Fel Ni Sefydliad Aren Cymru. Cafodd y lansiad a nifer o straeon yngl?n ag achosion unigol ledled Cymru eu darlledu gan y BBC ac ITV ac roedd yna nifer o straeon hefyd yn y wasg brint. Addawodd y Gweinidog, Edwina Hart AC, ymateb swyddogol i'r ddogfen a mynegodd ei bod hi'n dymuno gweld ymgynghoriad cyhoeddus yngl?n a system caniatâd tybiedig. Fe wnaeth hi hyn yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 21 Tachwedd 2007 pan groesawodd y Llywodraeth yr adroddiad Pobl Fel Ni a rhoi addewid i weithredu nifer o'r awgrymiadau.

Wrth ymateb i werth yr ymgyrch Pobl Fel Ni, dywedodd y Gweinidog Iechyd Edwina Hart AC: "(Mae Pobl Fel Ni) wedi bod yn ymgyrch hynod o gyfrifol sydd wedi ceisio amlygu gweithredoedd ymarferol y gallwn eu gwneud i wella safon bywyd cleifion sydd a phroblemau arennol... Mae Sefydliad Aren Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol o ran dwyn sylw i'r materion hyn ym mysg y cyhoedd a gwleidyddion. Mae'n beth da bod y sector gwirfoddol yn gallu gweld yn glir ei fod wedi llwyddo i gael y Llywodraeth i edrych ar ein polisïau. Mae hwn yn ychwanegiad i'r Llywodraeth ac i waith y Cynulliad Cenedlaethol sy'n werth ei nodi."

Enghreifftiau