Partneriaid

Asiantaeth materion cyhoeddus arbenigol ydym, ac nid ydym yn honni y gallwn ddiwallu eich holl anghenion cyfathrebu, gwybodaeth a chefnogaeth busnes. Ond rydym wedi datblygu trefniadau partneriaeth gyda chwmnïau eraill er mwyn ehangu y portffolio o wasanaethau y gallwn ei gynnig. Mae Positif Politics yn gweithio gyda'r partneriaid hyn yn rheolaidd i ddarparu rhaglen weithgareddau fwy llawn a mwy o opsiynau i'n cleientiaid. Mae'r partneriaid hyn yn cynnwys:
The Pollen Shop, ymgynghoriaeth gyfathrebu arloesol sy'n cefnogi pobl sydd ddim yn cael eu cynnwys mewn strwythurau cyfathrebu traddodiadol, dan reolaeth Gwilym Morris.
YPublic Trust Partnership, cwmni gwasanaethau proffesiynol sy'n darparu gwasanaethau i'r sector breifat, cyhoeddus a gwirfoddol trwy'r gwerthoedd o ymddiriedaeth a phartneriaeth i sicrhau gwerth gorau am arian ac elw i'w cleientiaid, dan reolaeth Roy Thomas.
Elin Wyn, darparwr hyfforddiant cyfryngol, newyddiadurol a mentora uchel ei pharch.
Oldbell 3, ymgynghoriaeth datblygu economaidd gyda phrofiad Cymreig helaeth ym maes ymchwil a dadansoddi polisi dan reolaeth Gareth Williams.
Parabl Cyf, ymgynghoriaeth cysylltiadau cyhoeddus a iaith Gymraeg wedi ei lleol yng Ngogledd Cymru, gyda phrofiad helaeth ym maes llywodraeth leol, trefnu digwyddiadau a chyfieithu, dan reolaeth John Roberts.