Monitro

Dyw hi ddim yn rhwydd dod o hyd i'r ffordd trwy strwythurau gwleidyddol
y Gymru fodern. Beth sydd yn berthnasol i chi a sut mae cael hyd iddo. Does
gennych chi ddim yr amser, yr amynedd na'r awydd i wneud hyn, felly gadewch
i ni ei wneud ar eich rhan.
Mae Positif Politics yn darparu gwasanaeth monitro parhaus o'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y Cynulliad. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael unai trwy gydol y flwyddyn neu yn ystod tymhorau'r Cynulliad. Nid gwasanaeth "torri a gludo" mohono - mae ein gwasanaethau gwybodaeth yn cynnwys deallusrwydd, dadansoddi a chyd-destun i'ch galluogi i wneud y defnydd gorau o'r wybodaeth.
Caiff tanysgrifwyr fwletin unigryw wythnosol sydd wedi ei deilwra i anghenion eu sefydliad. Mae ffocws a safon y bwletinau yn ddiguro. Yn wir, mae monitro gwleidyddol yn rhan greiddiol o'n busnes ac yn un o'r rhannau o'r busnes sy'n tyfu gyflymaf. Caiff y bwletinau wythnosol eu hategu gan fwletinau brys yngl?n a'r prif bynciau i bob cleient.
Mae ein gwasanaeth monitro hefyd yn dilyn taith pob math o ddeddfwriaeth trwy strwythurau'r Cynulliad, gan gynnig dadansoddiad ac arweiniad, ac mae hefyd yn cynnwys gwaith cyrff cyhoeddus eraill perthnasol. Ac rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth monitro'r wasg a datblygiadau perthnasol yn San Steffan ac ar lefel Ewropeaidd.