Pobl - Llyr Roberts

Mae Llyr Roberts yn un aelodau gwreiddiol Positif Politics ac wedi bod yn Gadeirydd y Cwmni ers Awst 2010 wedi cyfnodau fel Ymgynghorydd Uwch (2006-2009), Pennaeth Monitro (2007-2009) a Cyfarwyddwr Datblygu Busnes (2009-2010).
Wedi graddio o Brifysgol Rhydychen ymunodd Llyr gydag Uned Wleidyddol BBC Cymru ble bu'n gynhyrchydd gyda chyfrifoldeb am nifer o raglenni teledu a radio, gan feithrin dealltwriaeth drylwyr o wleidyddiaeth Cymru a Phrydain a'r cyfryngau. Bu'n gweithio am dair blynedd wedi hynny fel uwch ymgynghorydd gwleidyddol gydag asiantaeth faterion cyhoeddus arall, cyn cyd-sefydlu Positif Politics gyda Daran Hill yn 2007.
Mae Llyr wedi cwblhau cwrs Meistr mewn Rheolaeth Busnes (MBA) gydag anrhydedd
yn Ysgol Fusnes Caerdydd tra'n gweithio i Positif Politics, ac mae'n cynnig
mewnbwn strategol sylweddol i'n cleientiaid ac i fwrdd rheoli'r cwmni. Mae
nawr wrthi'n cwblhau doethuriaeth mewn Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
(CSR) yng Nghanolfan Ymchwil BRASS ac Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae Llyr hefyd
yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gyfrannwr cyson i'r cyfryngau yng Nghymru.