Enghraifft - Diwrnod Adfocasi Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol

Fe wnaeth croesdoriad o sefydliadau iechyd gwirfoddol gysylltu gyda Positif
Politics yn Rhagfyr 2006 i ofyn i ni greu digwyddiad fyddai'n dod ag ystod
eang o sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd i gynyddu eu proffil
gyda gwleidyddion neu i gyfathrebu negeseuon penodol yn ystod ymgyrch Etholiad
y Cynulliad. Canlyniad y trafodaethau oedd y Diwrnod Adfocasi Iechyd, Lles
a Gofal Cymdeithasol ar 28ain Mawrth 2007. Dyma'r lobi fwyaf o sefydliadau
gwahanol gafodd ei chynnal erioed yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Positif Politics wnaeth drefnu'r digwyddiad, trwy ganfod pobl oedd am gymryd rhan a rheoli'r trefniadau logistaidd. Daethom a 57 o sefydliadau ynghyd, er nad oedd gan nifer ohonynt hanes o gydweithio fel hyn, ac fe lwyddom i ddenu dwy ran o dair o'r Aelodau Cynulliad a nifer o ymgeiswyr yn yr etholiad i ymweld gyda'r stondinau.
Gellir mesur ddylanwad y digwyddiad yn y dyfyniad canlynol o'r Cofnod o'r Sesiwn Lawn ar Mawrth 28ain 2007:
Jane Hutt (Llaf, Bro Morgannwg): "Yr oeddwn yn falch iawn, Lywydd, o glywed eich sylwadau agoriadol heddiw yn yr ?yl iechyd, lles a gofal cymdeithasol, fel y byddwn yn ei galw, yn y neuadd. Yr oedd cynifer o sefydliadau'n bresennol, ac yr oeddent yn frwdfrydig ac yn awyddus i Aelodau'r Cynulliad ddod yno i ddysgu ac ymgysylltu â hwy. Mae'r ffordd yr ydym wedi meithrin perthynas yn ddigyffelyb. Ni chawsom y cyfleoedd hynny yn y gorffennol i'r Llywodraeth a'r bobl mewn cymdeithas ddinesig yng Nghymru ymwneud â chyfleoedd seneddol ehangach, ac yn awr yrydym yn manteisio i'r eithaf arnynt. Mae hynny'n ddull a luniwyd yng Nghymru."