Hygyrchedd | Map o'r wefan | English
Positif Politics

Enghraifft - Newid Modd Llywodraethu

Chwe trac rhedeg lliw gyda chymeriadau lliw yn symud ar gyflymder gwahanol
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn creu system ble gall cyfreithiau ar gyfer Cymru gael eu creu o fewn Cymru am y tro cyntaf. Mae'n bosib hefyd y bydd yna addewid o refferendwm ar gyfer pwerau deddfu llawn erbyn 2011, ond dyna ble rydym ni ar hyn o bryd.

Mae Positif Politics yn rhoi pwys mawr ar y cyfleoedd ar gyfer newid go iawn y mae Deddf Llywodraeth Cymru yn ei gynnig ac rydym eisoes yn gweithio gyda partneriaid a chleientiaid i ddefnyddio'r system newydd yn effeithiol. Rydym hefyd yn cydweithio gydag eraill o fewn cymdeithas ddinesig Cymru i hyrwyddo'r system ddeddfu newydd a'r cyfle i weithredu newid ddaw yn ei sgil.

Un enghraifft o'r math yma o gydweithio oedd y cyflwyniad "Creu Deddfau Newydd i Gymru - Deddfwriaeth Wedi Deddf Llywodraeth Cymru 2006" gan Huw Williams, Partner a Phennaeth Cyfraith Gyhoeddus gyda chwmni cyfreithiol Geldards LLP i symposiwm ar y cyd rhwng Geldards a Positif Politics a gynhaliwyd ar 25 Mai 2007. Mae'r cyflwyniad hefyd yn darparu canllaw ardderchog i'r system ddeddfu newydd.

Enghreifftiau