Côd Ymarfer

Fe wnaeth Positif Politics benderfyniad strategol o'r dechrau i weithio i wella statws a dealltwriaeth o faterion cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn onest am ein gwaith a sut rydym yn gweithredu; ac mae ein gwasanaethau adfocasi yn cydymffurfio gyda'r safonau moesol gorau i sicrhau bod ein gwaith yn cynyddu eich enw da.
Ym Mawrth 2007 fe gafodd Positif Politics ei gymeradwyo yn aelod o Gymdeithas yr Ymgynghorwyr Gwleidyddol Proffesiynol (APPC). Yr APPC yw'r corff sy'n cynrychioli ac yn rheoli ymarferwyr materion cyhoeddus yn y sector ymgynghori ledled Prydain. Mae'r ffaith i ni ennill aelodaeth mor gynnar yn ein hanes yn dysteb i'r parch tuag atom o fewn y gymuned materion cyhoeddus, ac o'n hymroddiad i gydymffurfio ac i gael ein gweld yn cydymffurfio gyda'r safonau moesol uchaf posib o ran atebolrwydd a thryloywder. Mae ein holl waith yn cydymffurfio gyda Chod yr APPC. Rydym hefyd yn gweithredu o fewn yr APPC i geisio sicrhau bod eu safonau yn cael eu gweithredu yr un mor drwyadl yn Nghymru ag yn Llundain.
Fe wnaethom gyfrannu hefyd tuag at sefydlu Public Affairs Cymru, (PAC), corff proffesiynol ar gyfer y diwydiant yn Nghymru, yn 2006. Ac mae Positif Politics yn ymroi i weithio gyda phobl broffesiynol o sefydliadau ac asiantaethau eraill i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd, dilysrwydd a bywiogrwydd y proffesiwn materion cyhoeddus.