Enghraifft - Etholiad Cynulliad 2007

Yn 2006-07 fe wnaeth Positif Politics weithio ar y cyd gyda'n partneriaid
yn the Pollen Shop i ddatblygu a darparu gwasanaeth blaengar a chynhwysfawr
i ddadansoddi Etholiad y Cynulliad. Fe wnaeth ein gwasanaeth ar y we gynorthwyo
dros 50 o sefydliadau trwy'r pynciau a'r bobl berthnasol, gan ddarparu gwasanaeth
unigryw oedd yn ateb cwestiynau ac wedi ei gynllunio o gwmpas anghenion
proactif pob tanysgrifiwr.
Roedd prif nodweddion y gwasanaeth yn cynnwys:
- Bwletinau trwyadl ar y pynciau mawr a'r bobl i'w gwylio
- Dadansoddiad a chanllawiau i faniffestos y pleidiau a sut gallai tanysgrifwyr elwa o'r meysydd polisi sydd wedi eu datganoli i Gymru
- Bwletin wythnosol meddylgar yngl?n a'r prif bynciau
- Manylion cyswllt a phroffil ar gyfer pob ymgeisydd yn canolbwyntio ar eu prif bynciau ymgyrchu a'u profiad
- Proffil o bob etholaeth a sedd rhanbarthol
- Esboniad o sut mae'r system etholiadol yn gweithio
- Banc data Cwestiynau ac Atebion oedd yn galluogi tanysgrifwyr i bennu'r agenda a'n galluogi i ateb cwestiynau cleientiaid
- Fforymau rheolaidd ble gallai cleientiaid ofyn cwestiynau yn uniongyrchol i ymgeiswyr o'r prif bleidiau ar bynciau o bwys
- Cyfle i gyflwyno papurau ar bynciau fel y gallai cleientiaid eraill a llunwyr polisi ddysgu mwy am eu prif bynciau a'u safbwynt
- Proffil llawn o'r holl enillwyr, wedi eu gyrru i'r holl danysgrifwyr ar noson yr etholiad
Ategwyd y gwasanaeth gan ddau ddigwyddiad: sesiwn canlyniadau ar Ddydd Gwener 4ydd Mai 2007; a seminar diwrnod o hyd ar Mai 25ain mewn partneriaeth gyda the Pollen Shop a Geldards LLP.