Hygyrchedd | Map o'r wefan | English
Positif Politics

Enghraifft - Plant Anabl yn Cyfri Cymru

Cylch mawr o gymeriadau lliw yn dal dwylo
Mae Plant Anabl yn Cyfri Cymru yn ymgyrch ar y cyd sy'n cael ei arwain gan 4 prif sefydliad sydd yn gweithio gyda phlant anabl a'u teuluoedd - Anabledd Dysgu Cymru; Plant yng Nghymru; Mencap Cymru; a Cyswllt Teulu Cymru. Pwrpas Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru yw i ddod a phlant a phobl ifanc anabl ynghyd, gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau i sicrhau bod Llywodraeth y Cynulliad yn gweithredu ei addewid i flaenoriaethu plant a phobl ifanc anabl. Cafodd ei sefydlu yn Haf 2007 ac un o'i ymgyrchoedd cyntaf oedd i ddwyn sylw i'r ffaith bod angen gwneud mwy i gefnogi plant anabl a'u teuluoedd.

Daeth yr angen am hyn yn amlwg iawn wedi cyhoeddi adroddiad y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol (NSF) Plant a Phobl Ifanc, oedd yn dangos bod gwasanaethau i blant anabl ymhell o'r safon angenrheidiol. Dangosodd yr Adroddiad ar Offeryn Archwilio Hunanasesu NSF 06/07 mai Plant a Phobl Ifanc Anabl yw'r adran wanaf yn gyson ledled Cymru o ran darparu gwasanaethau.

Yn wyneb yr adroddiad hwn a methiannau eraill o ran gweithredu polisi, mae gan yr Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru saith nod allweddol:

Dechreuodd Positif Politics weithio gyda Plant Anabl yn Cyfri Cymru yn Hydref 2007 er mwyn datblygu strategaeth i gael y llywodraeth i flaenoriaethu'r 7 nod yma. Un nod allweddol o'r ymgyrch oedd sicrhau bod gwasanaethau i blant anabl yn cael eu hariannu yn briodol. Yn Lloegr, fe wnaeth strategaeth "Aiming High for Disabled Children: Better Support for Families" Llywodraeth y DU arwain at ryddhau £21m ychwanegol i'r Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, nid oedd awgrym y byddai'r arian yn cael ei wario ar blant anabl yng nghynlluniau gwariant gwreiddiol Llywodraeth y Cynulliad. Fe wnaeth Positif Politics a the Pollen Shop weithio gyda Plant Anabl yn Cyfri Cymru i newid blaenoriaethau gwario y llywodraeth. Fe wnaeth ein gwaith ar y cyd gynnwys lobi fawr o Aelodau Cynulliad a Gweinidogion; cryfhau ac atgyfnerthu neges a phwyntiau strategol yr ymgyrch yn ystod cylch cynllunio cyllideb y Cynulliad; ac, yn benodol, gweithio i sicrhau bod Datganiad Barn a gafodd ei gyflwyno gerbron y Cynulliad yn ennill llofnod pob Aelod Cynulliad oedd yn gymwys i wneud hynny. Trwy weithio ar y cyd, fe wnaethom helpu i sicrhau mai Datganiad Barn Lynne Neagle AC, oedd yn galw am glustnodi adnoddau sylweddol ychwanegol yng nghyllideb y Cynulliad ar gyfer plant anabl, oedd un o'r Datganiadau Barn cyntaf erioed i ennill cefnogaeth POB Aelod Cynulliad mainc gefn. Cafodd yr ymgyrch sylw helaeth hefyd yn y wasg brint a'r cyfryngau.

O ganlyniad i'r Ymgyrch, fe wnaeth Llywodraeth y Cynulliad ddod ynghyd gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a chytuno i flaenoriaethau gwasanaethau ar gyfer plant anabl dros y blynyddoedd nesaf. Addawodd y Gweinidog Plant, Addysg, Dysgu Cydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt AC, y canlynol mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 6ed Rhagfyr 2007, mewn ymateb i ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru:

Enghreifftiau