Pobl - Daran Hill
Daran Hill yw Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Ymgynghorydd Positif Politics. Mae'n arwain gwasanaethau ymgynghorol, ymchwil a monitro ystod eang o gleientiaid ar draws y cwmni. Mae Daran yn arbenigo mewn rhagweld gwleidyddol a synhwyro'r hinsawdd wleidyddol, sy'n ei alluogi i rybuddio cleientiaid ynglyn a newidiadau polisi a phwyslais gwleidyddol.
Mae wedi gweithio mewn rol blaenllaw ym materion cyhoeddus Cymreig ers 1999. Fel un o ymgynghorwyr materion cyhoeddus mwyaf awdurdodol Cymru, mae ganddo gysylltiadau helaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ac mae ei brofiad a'i sgiliau cyfathrebu wedi cael eu cydnabod gan nifer o ymddangosiadau yn y cyfryngau. Mae hefyd yn golygydd ar y fenter arlein Wales Home.
Mae'n hyfforddwr disglair a chanddo wybodaeth health am Ddeddf Llywodraeth Cymru a phwerau deddfu a ddaeth ohoni. Mae wedi darparu hyfforddiant, gwybodaeth a deallusrwydd am brosesau gwleidyddol i nifer o gynulleidfaoedd: cleientiaid mewnol; mewn seminarau; ac mewn sefyllfaoedd hyfforddi mwy personol. Mae hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl.
Yn 1997 Daran oedd Trefnydd Cenedlaethol yr ymgyrch "Ie
dros Gymru" llwyddiannus yn y refferendwm a arweiniodd at sefydlu'r
Cynulliad Cenedlaethol. Mae Daran hefyd yn gyn-Gadeirydd Public
Affairs Cymru, y corff ar gyfer y proffesiwn materion cyhoeddus yng
Nghymru, and yn uchel ei barch ac adnabyddus drwy'r byd sifig yng Nghymru.
Mae'n hymddiriedolwr o Sefydliad Bevan ac yn Gymrawd o Sefydliad Materion
Cymreig.