Deallusrwydd Corfforiaethol
Mae penderfyniadau gan y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn effeithio ar ystod eang o feysydd busnes o weithgynhyrchu i fanwerthu, adeiladu i ariannu, ynni a thanadeiledd, hyfforddiant a sgiliau.
Profwyd fod deallusrwydd gwleidyddol megis ar faterion yn ymwneud â'r ardoll ar fagiau plastig, cefnogaeth fusnes, materion cynllunio a thanadeiledd, rhyddhad ardrethi busnes, rheoliadau adeiladu, a thrafnidiaeth wedi profi yn hanfodol i fusnes yn y ddeng mlynedd diwethaf.
Bydd y Cynulliad yn parhau i gael effaith ar fusnes. Ni fydd busnesau nad ydynt yn credu for deallusrwydd gwleidyddol yn bwysig yn goroesu yn y farchnad fyd-eang a domestig.
Gall Positif Politics ddarparu ystod eang o wasanaethau pwrpasol, wedi'u cyfeirio at fusnes er mwyn eich diweddaru a'ch helpu i lywio'r agenda. Mae'n gwasanaethau corfforiaethol yn cynnwys:
- Gwybodaeth ar bolisi a rheoliadau Cymreig yn effeithio ar fusnes.
- Cyngor ymgynghorol ar sut i ddylanwadu a llunio polisi
- Archwiliad ar 'Enw da' er mwyn mesur yr argraff yr ydych yn ei gael ar wneuthurwyr polisi
- Rhaglenni rhwydweithio er mwyn eich helpu i adeiladau cysylltiadau gyda'r bobl sy'n cyfrif
- Cysylltiadau strategol i sicrhau eich bod yn cael y neges gywir i'r bobl cywir
- Rheoli Digwyddiadau i'ch helpu gael yr effaith orau
- Hyfforddiant ar sut i lywio eich ffordd o amgylch y broses deddfu a gwleidyddol yng Nghymru
Er mwyn darganfod mwy ar sut y gallwn helpu eich busnes, cysylltwch â ni ar 029 20442020 neu daran@positifpolitics.co.uk.