Cefnogaeth Strategol
Wrth
i wleidyddiaeth Cymru dyfu'n fwy perthnasol, mae pethau hefyd yn mynd yn
fwy cymhleth. Daw'r cyfleoedd newydd a sialensiau newydd.Mae Positif Politics
yn bositif am wleidyddiaeth newydd Cymru, yn enwedig y cyfleoedd newydd
yn sgil sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol. Rydym yn cynnig gwasanaethau ymgynghorol
gwreiddiol, unigryw a chefnogaeth unai yn barhaol neu o dro i dro yn ddibynnol
ar anghenion y cleient. Mae hyn yn cynnwys cyngor am agweddau gwleidyddol
ymgyrchu a sut i gael y maen i'r wal trwy'r Cynulliad Cenedlaethol.
Dyw hi ddim yn hawdd i sefydliadau greu perthynas gyda phawb maent ei angen. Ein harbenigedd ni eich helpu chi i leoli eich hunain yn y modd gorau posib gyda'r bobl sy'n gwneud y penderfyniadau a hefyd y bobl sy'n llunio'r syniadau. Gall Positif Politics ddehongli strwythurau gwleidyddol a'r cyfleoedd am newid mewn modd sy'n berthnasol i anghenion eich sefydliad. Nid ydym wedi ein clymu i unrhyw feddylfryd neu blaid wleidyddol. Nid dim ond y gwleidyddion sydd berchen y wleidyddiaeth Gymreig newydd sy'n esblygu. Rydym yn gweithio gyda phobl o bob plaid a phobl eraill i gyflawni a sicrhau cynnydd.
Mi fydd Positif Politics yn helpu i chi ddeall y cyfleoedd a sialensiau
rydych yn gwynebu, a helpu i chi datblygu strategaeth i wella eich cyfle
a helpu i chi gwneud y gorau o'ch adnoddau.