Hygyrchedd | Map o'r wefan | English
Positif Politics

Lobio ac Ymgyrchu

Rhes o ddynion llwyd gyda un dyn porffor yn codi ei freichiau ar y blaen
Lobio ac ymgyrchu yw ein cryfder craidd. Fel y dengys yr Enghreifftiau o'n gwaith, mae gennym awch i ymgyrchu er mwyn cyflawni ystod eang o amcanion. Gall rhain gynnwys cydnabyddiaeth sefydliadol, newid polisi, mwy o nawdd, ac ymestyn cyfrifoldebau deddfwriaethol.

Ein awch i ymgyrchu sy'n ein gwahaniaethu o'n cystadleuwyr yng Nghymru . Nid ydym ofni ymgyrchoedd mawr a heriol na phynciau sydd angen ymdriniaeth sensitif. Pan fyddwch yn cyflogi Positif Politics, caiff tîm blaengar ei bennu i chi i'ch cynorthwyo mewn modd ymarferol. Rydym yn agored i syniadau newydd ac yn dysgu'n barhaus, gan addasu ein rhaglenni a'n hargymhellion er mwyn sicrhau gwerth gorau a chanlyniadau i'n cleientiaid.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn cysylltiadau cymunedol ac ymgyrchoedd llawr gwlad. Trwy weithio gyda the Pollen Shop, rydym yn sicrhau bod safbwyntiau unigolion a chymunedau yn cael dylanwad uniongyrchol ar benderfyniadau gwleidyddol.

Wrth i bwerau a chyfrifoldebau deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol ehangu, rydym yn cydnabod yr angen am gefnogaeth ac atebion deallus i alluogi sefydliadau i ymestyn eu dylanwad. Rydym yn arbenigo mewn defnyddio'r cyfleoedd newydd i leoli a chyflawni amcanion cleientiaid. Gallwn roi cefnogaeth strategol i chi i ddefnyddio gweithdrefnau deddfwriaethol newydd y Cynulliad i gyflawni eich amcanion, er enghraifft, trwy ddatblygu Mesur Cynulliad perthnasol i'r materion sydd o bwys i chi neu trwy ganolbwyntio ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.

Gwasanaethau