Trosolwg

Cafodd Positif Politics ei sefydlu yn 2006 gan ddau ymgynghorydd materion cyhoeddus profiadol, Daran Hill a Llyr Roberts. Ers hynny mae Positif Politics wedi datblygu enw da ac yn cael ei ystyried gan lawer i fod yr ymgynghoriaeth materion cyhoeddus mwyaf blaengar a dylanwadol Cymru. Rydym wedi darparu gwasanaethau newydd, blaengar i dros 200 o sefydliadau - sy'n record i unrhyw gwmni materion cyhoeddus sy'n gweithredu yng Nghymru. Ac mae'r tim wedi tyfu i gynnwys pedwar aelod craidd ychwanegol - Alun Gruffudd, Susan Bowen, Kate Lewis, Beryl Wichard, a Rhodri ab Owen - ac Ymgynghorwyr Allanol hefyd. Ac rydym yn dal i dyfu.
Mae'r gair POSITIF yn adlewyrchu ein hagwedd a'r modd rydym yn gweithredu. Fe wnaethom benderfyniad strategol o'r dechrau i weithio i wella statws a dealltwriaeth o faterion cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn aelodau llawn o Gymdeithas yr Ymgynghorwyr Gwleidyddol Proffesiynol ac yn cydymffurfio'n llawn gyda Chod Ymarfer y Gymdeithas er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn agored a thryloyw. Ac rydym yn rhoi pwys ar ein rôl ehangach o fewn cymdeithas ddinesig o ddifri ac yn gweithio gydag Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol, Aelodau Senedd Ewrop, Cynghorwyr, Gweision Sifil, ymchwilwyr, pleidiau gwleidyddol, cyrff proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol, y gymuned fusnes a newyddiadurwyr i gyflawni a gwella dealltwriaeth a pharch tuag at wleidyddiaeth newydd Cymru.