Datganiadau Newyddion 2011
- Cylchlythyr Positif Politics (Tachwedd 2011)
- Positif Politics yn Recriwtio (Ebrill 2011)
- Ie dros Gymru'n delifero buddugoliaeth ysgubol dros Gymru (Mawrth 2011)
- Positif Politics yn lansio gwasanaeth diweddaru busnes (Chwefror 2011)
- Positif Politics yn lansio gwasanaeth dealltwriaeth etholiad 2011(Ionawr 2011)
Cylchlythyr Positif Politics (Tachwedd 2011)
Mae Positif Politics wedi cyhoeddi ei gylchlythyr cyntaf sy'n cynnig y newyddion diweddaraf i'n cleientiaid a phartneriaid am yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud dros y misoedd diwethaf. Gallech ddarllen mwy amdanom ni a'n staff yma:http://www.positifpolitics.co.uk/docs/newsletter1.pdf
Positif Politics yn Recriwtio (Ebrill 2011)
Positif Politics Cyf yw'r cwmni ymgynghori gwleidyddol mwyaf ac uchaf ei barch yng Nghymru. Rydym yn chwilio am berson ychwanegol i ymuno gyda'n tîm ymchwil a monitro gwleidyddol yn ein swyddfeydd ym Mae Caerdydd o Fis Mehefin 2011.
Cliciwch yma i weld mwy: http://www.positifpolitics.co.uk/docs/ppjobadapril2011.doc
Ie dros Gymru'n delifero buddugoliaeth ysgubol dros Gymru (Mawrth 2011)
Ar Dydd Iau, 3ydd o Fawrth, sicrhaodd Cymru pwerau i wneud cyfreithiau cynradd heb orfod mynd i San Steffan am y tro cyntaf mewn wyth can mlynedd. Tynodd tim Positif Politics at ei gilydd a gwnaeth pob un ohonom gweithio mewn ffyrdd gwahanol i'r ymgyrch, gyda'r Prif Weithredwr Daran Hill yn cymryd secondiad am rai fisoedd er mwyn gweithredu fel Rheolwr Ymgyrchu yr ymgyrch lwyddiannus hon.
Yn dilyn cyhoeddiad y canlyniad, dywedodd Daran Hill (sydd yn y llun gyda'i gyd ymgyrchwyr Roger Lewis, Cathy Owens a Lee Waters)
"Yr ymgyrch hon yw'r peth gorau dwi erioed wedi bod ymglwm â hi. O'r diwedd, gall Cymru sefyll ochr yn ochr â'r Alban a Gogledd Iwerddon fel partner llawn o fewn y Deyrnas Unedig. Heddiw, rydym yn byw mewn gwlad gwell a mwy hyderus.
"Mae'r canlyniad syfyrdanol hwn wedi uno'r genedl. Nawr, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom dydd yn ymwneud â gwneuthur polisi, ymgynghorwyr materion cyhoeddus, ynghyd â gwleidyddion i ddelifero ar ran y genedl hwnnw. Bydd Positif Politics yn parhau yn rhan allweddol o siapio'r Gymru newydd."
Positif Politics yn lansio gwasanaeth diweddaru busnes (Chwefror 2011)
Mae Positif Politics, prif ffynhonnell deallusrwydd gwelidyddol Cymru, wedi ffurfio partneriaeth flaengar gyda Media Wales i ddarparu diweddariadau rheoaeidd ynglyn â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r gwasanaeth bwletinnau yn rhan o dudalennau busnes newydd y wefan WalesOnline. WalesOnline yw un o'r prif ffynonellau gwybodaeth newyddion, chwaraeon, busnes ac adloiant yng Nghymru a safle'r Western Mail, South Wales Echo ac Wales on Sunday ar y wê.
Bydd Positif Politics yn darparu penawdau newyddion a blog ar safle WalesOnline er mwyn darparu gwybodaeth gyfredol ynglyn â gwleidyddiaeth Cymru i'r gymuned fusnes.
Dywedodd Alun Gruffudd, Cyfarwyddwr Gwybodaeth y cwmni: "Mae gan dim deallusrwydd gwleidyddol Positif Politics ddealltwriaeth drylwyr o bolisi Cymreig sy'n berthnasol i fusnes."
"Rydym yn monitro pob dadl a chyfarfod pwyllogr yn y Cynulliad a gwaith Llywodraeth y Cynulliad yn ddyddiol."
"Bydd ein gwasanaeth ddiweddaru busnes newydd yn creu cynulleidfa ehangach i'n dealltwriaeth, a mae'n cadarnahau ein statws fel y prif ffynhonnell deallusrwydd ynglyn â'r Cynulliad Cenedlaethol."
Ymwelwch â www.walesonline.co.uk/business i weld y gwasanaeth.
Positif Politics yn lansio gwasanaeth diweddaru busnes (Chwefror 2011)
Mae 2011 yn flwyddyn wleidyddol hanesyddol gyda'r refferendwm ar bwerau pellach i'r Cynulliad ar Fawrth y 3ydd a Etholiadau'r Cynulliad ar Fai y 5ed.
Dros y blynyddoedd diweddar mae Positif Politics wedi sefydlu ei hun fel y prif arbennigwr ar etholiadau yng Nghymru gyda'r wefan flaengar Etholiad 2007, ein gwasanaeth etholiad cynhwysfawr yn ystod etholiadau Llywodraeth Leol 2008 a'n gwasanaeth Etholiad Cyffredinol 2010.
Eleni rydym yn cynnig y gwasanaeth canlynol:
- Canllaw Cynhwysfawr i'r Refferendwm ac diweddaradau ebost cyson a bwletinnau newyddion rheolaidd yn ystod yr ymgyrch
- Canllaw Cynhwysfawr i Etholiad y Cynulliad a diweddaradau ebost cyson a bwletinnau newyddion rheolaidd yn ystod yr ymgyrch
- Mynediad i wefan etholiad arbennig sydd wedi ei hamddiffyn gan gyfrinair, gyda diweddariadau, bwletinau a bywgraffiadau o'r ymgeiswyr
- Bas Data cysylltiadau i'r ymgeiswyr
- Dadansoddiad maniffesto manwl gan ein tim o arbennigwyr etholiadol
- Ein Llawlyfr Canlyniadau Etholiad 2011 gyda chrynodeb o'r holl ganlyniadau a bywgraffiadau ar gyfer y 60 Aelod Cynulliad newydd
Mae'r gwasanaeth wedi ei dargedu at sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac yn gystadleuol o ran pris. Cysylltwch â Susan Bowen susan@positifpolitics.co.uk neu 029 2044 2020 am fanylion tanysgrifio.