Datganiadau Newyddion 2010
- Tîm Positif Politics yn tyfu’n gynyddol gyda apwyntiad Kate Lewis (Mai 2010)
- Positif Politics yn cynnal cynhadledd llwyddiannus ar ymgyrch y refferendwm (Mai 2010)
- Positif Politics and Bevan Foundation host "One Wales, One Year to Go" (Mawrth 2010)
Tîm Positif Politics yn tyfu’n gynyddol gyda apwyntiad Kate Lewis (Mai 2010)
Mae cwmni Materion Cyhoeddus Positif Politics wedi apwyntio Kate Lewis fel Uwch Ymgynghorydd.
Daw Kate ag arbenigedd o dros ddeng mlynedd o gynllunio ymgyrchoedd gwleidyddol mewn ystod eang o ddiwydiannau a meysydd polisi amrywiol, yng Nghymru ac yn San Steffan. Mae profiad Kate o weithio gyda’r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol wedi ei galluogi i sicrhau dealltwriaeth gadarn o’r strategaethau angenrheidiol i ymateb a sialensau cyfathrebu deddfwriaethol a chorfforaethol ei chleiantiaid.
Dywed Kate “Mae gan Positif Politics enw da gyda chleiantiaid a gwneuthurwyr polisi. Rwyf wrth fy modd o gael bod yn rhan o un o dimoedd mwyaf cyffrous a deinameg materion cyhoeddus yng Nghymru.”
Medd Daran Hill, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Ymgynghorydd Positif Politics “Rydym yn hapus iawn i grosawu Kate i’r tîm, ac edrychaf ymlaen at ei chyfraniad i’r cwmni. Rydym hefyd yn hapus bod y cwmni’n tyfu’n gynyddol ac bod ein tîm yn ehangu gan ddod ag eraill ag arbenigedd ac enw da a fyddai’n golygu ein bod yn medru cynnig gwasanaethau mwy eang. Mae sgiliau’r tîm yn cyd-blethu’n berffaith ac o ganlyniad gallwn gymryd materion cyhoeddus yng Nghymru i lefelau a chyfeiriadau newydd.”
Sefydlwyd Positif Politics yn 2006 gan ddau ymgynghorwr materion cyhoeddus profiadol, Daran Hill a Llyr Roberts. Ers hynny mae Positif Politics wedi creu enw da i’w hun am fod yn asiantaeth materion cyhoeddus Cymreig mwyaf blaengar a dylanwadol. Mae’r cwmni yn gwasanaethu dros 200 o sefydliadau – record yn nhermau niferoedd i gwmni materion cyhoeddus sy’n gweithio yng Nghymru.
Positif Politics yn cynnal cynhadledd llwyddiannus ar ymgyrch y refferendwm (Mai 2010)
Daeth panel o arbennigwyr ynghyd i Gaerdydd ar Fai’r 19eg er mwyn archwilio sut y gellid ennill ymgyrch referendwm.
Teitl y digwyddiad oedd ‘Profiad Referenda’ a gynhaliwyd ar adeg tyngedfennol, wrth i Gymru aros i glywed pryd y cynhelir y refferendwm arfaethedig ar ragor o bwerau, yn dilyn newid llywodraeth yn San Steffan.
Y panel ar gyfer y digwyddiad, a gynhlaiwyd yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, oedd Dr Mads Qvortruop, arbenigwr Ewropeaidd ar referenda, Nigel Smith, cyn Gadeirydd yr ymgyrch Ie yn yr Alban, Quintin Oliver, a wnaeth gydlynu y referendwm ar gytundeb Gwener y Groglith yng Ngogledd Iwerddon a Daran Hill, cyn Drefnydd Cenedlaethol, yr ymgyrch Ie dros Gymru.
Llywydd y digwyddiad oedd Bethan Jenkins AC a chadeiriwyd y noson gan Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan.
Dywedodd Bethan: “Mae’r rheswm dros gynnal y refferendwm, sef symud i bwerau ran pedwar, yn anhebygol o ddal dychymyg yr etholwyr, yn yr un modd y mae refferenda y gorffennol wedi ei wneud – pwynt sy’n codi pryder i ddatganolwyr brwd fel mi. O ganlyniad byddai’n gwrando’n astud ar yr arbenigwyr, gan weld os allem ddysgu unrhyw wersi ar gyfer yr ymgyrch Ie.”
Ychwanegodd Victoria Winckler: “Gyda holl gyffro’r Etholiad Cyffredinol a beth ddigwyddodd wedi hynny, mae yna bosibiliad nad yw pobl wedi bod yn canolbwyntio ar y refferendwm. Ond nid yw ymgyrch refferendwm yr un peth ag ymgyrch etholiadol a mae angen ar bobl i feddwl yn ddwys am sut ydynt yn ymgyrchu y tro hwn.”
Dywedodd Daran Hill: “Mae bywyd modern yn llawn o ddewisiadau gwleidyddol. Yn syth wedi’r etholiad, mae’r ymgyrch refferendwm ar ein pennau. Mae’r refferendwm hwn yn gyfle i bawb i fod yn rhan o gonsensws blaengar.”
Positif Politics a Sefydliad Bevan yn cynnal "Cymru’n Un, Un Flwyddyn i Fynd" (Mawrth 2010)
Bydd pennaeth Unsain yng Nghymru heddiw yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi “pobl o flaen elw” gan beidio a chael eu temptio i ddilyn llwybr PFI fel modd i oresgyn y dirwasgiad.
Bydd Paul O’Shea yn siarad mewn cynhadledd fawr yn hwyrach heddiw i nodi can niwrnod cyntaf y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ei swydd a galwa arno i sicrahu bod gwasanaethau cyhoeddus yn aros yn gyhoeddus er budd y rheiny sydd eu hangen mwyaf.
“Mae yna ormod o dystiolaeth yn dangos nad yw PFI yn fuddsoddiad da- a’i bod mewn gwirionedd yn wastraff arian, yn aneffeithiol ac yn declyn er mwyn gwneud elw. Mae’n angenrheidiol ein bod yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn aros yn gyhoeddus er mwyn sicrhau gwerth gorau posibl am ein harian; gwerthoedd sy’n cadw safon mewn nwyddau; gwerthoedd sy’n rhoi pobl cyn elw.”
Credai Mr O’Shea oherwydd bod gwasanaethau cyhoeddus yn chwarae rhan flaenllaw yn sicrhau gwerth am ein haraian, y dylai llywodraeth San Steffan gynyddu trethinat ar y pobl mwyaf cyfoethog, yn hytrach na thorri gwariant fel modd i ad-dalu dyled.
“Dwi’n credu er mwyn lleihau’r dirwasgiad yng Nghymru, mae gwariant cynaladwy ar wasnaethau cyhoeddus yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod lefel swyddi a galw yn yr economi yn cael ei gynnal. Nid ydym yn gallu caniatau sefyllfa, ble mae unigolion mewn cymdeithas sydd yn ddibynol ar wasanaethau cyhoeddus yn methu cael mynediad i’r gwasanaethau hynny.
“Ar ben hynny, mae angen uwcholeuo’r ffaith y bydd colledion mewn swyddi yn y sector gyhoeddus yn cael effaith mwy ar yr economi na phetai’r unigolyn hynny yn parahau i ddelifero’r gwasanaethau cyhoeddus.”
Yn ymuno â Mr O’Shea i drafod y gyllideb Gymreig bydd Steve Thomas, Prif Weithredwr WLGA a’r economegydd Dylan Jones Evans.
Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones hefyd yn traddodi araith ar ei asesiad o gytundeb Cymru’n Un er mwyn dynodi ei can niwrnod cyntaf yn y swydd.
Cynhelir ‘Cymru’n Un, Un Flwyddyn i Fynd’ yn y Novotel ym Mae Caerdydd a threfnir gan Sefydliad Bevan a Positif Politics er mwyn asesu’r materion allweddol a wynebau’r glymblaid wrth iddi gychwyn ar y 12 mis olaf.
Dywed Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan: “Mae Cytundeb Cymru’n Un rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn wynebu sialensau digynsail – Prif Weinidog a chabinet newydd, pwysau cyllidol enbyd, referendwm ar bwerau cynyddol ac etholiad San Steffan. Gobeithiwn y bydd y digwyddiad hwn yn sbarduno trafaodaeth ar beth all fod mewn stôr ar ein cyfer yn y 12 mis nesaf.”
Dywed Daran Hill, Cyfarwyddwr Positif Politics: “Mae’r gynhadledd hon yn edrychiad unigrwy gan ddwy sefydliad mewn i flwyddyn olaf Cymru’n Un. Wrth ddynodi can niwrnod cyntaf y Prif Weinidog newydd, mae’r digwyddiad hwn yn dod a gwleidyddion blaenllaw, gwneuthurwyr polisi allweddol a sylwebwyr ynghyd ar gyfer deiaog am sefyllfa presennol a’r dyfodol i Gymru’n Un.”